| Welsh MEPs dodge expenses questions |
|
|
| 14 May 2008 | |
|
Welsh MEPs are reluctant to give any details about their earnings or how they spend the monies received from the European Parliament, Dafydd ab Iago has found in an investigation for Welsh monthly Barn. Dafydd asked how much the MEPs earned from the EP, how much did they spend on their assistants and how much did they receive in expenses, but he received no straight answers. The Welsh equivalent of transparency, 'tryloywder', does not seem to ring clearly in the ears of MEPs Glenys Kinnock, Jill Evans, Jonathan Evans and Eluned Morgan. This may be a good explanation of why Welsh MEPs are so reluctant to give any details as to their earnings or how they spend the monies received from the European Parliament. Despite their refusal to answer the questions, all MEPs from Wales still claim to be members of some or other EP campaign for greater transparency. 'Tryloywder' ein Aelodau Seneddol Ewropeaidd Mae pob un o'n pedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd (ASE) yn poeni am 'dryloywder'. Mae Jill Evans (Plaid Cymru) ac Eluned Morgan (Llafur) wedi ymuno â'r 'Ymgyrch i Ddiwygio'r Senedd'. Mae Jonathan Evans (Ceidwadwr) yn defnyddio cyfrifydd proffesiynol annibynnol. 'Dydw i ddim yn cyflogi unrhyw aelodau o fy nheulu', eglurodd Jonathan wrth Barn. Mae Glenys Kinnock (Llafur) ac Eluned yn rhoi – yn 'wirfoddol' yn ôl eu swyddog gwasg – eu cyfrifon i gyfrifyddion proffesiynol annibynnol. 'Llafur yw'r unig blaid o Brydain I orfodi eu ASEau i'w wneud', ychwanegodd yr un swyddog. 'Ar ôl etholiadau 2009,' eglurodd Jill Evans, 'Bydd Statud Aelodau newydd yn dod i rym. Mi fydd yn gosod un cyflog misol cyfartal i bob aelod a bydd hwn yn cael ei dalu gan yr UE. Bydd y treuliau teithio yn cael eu talu yn ôl costau go iawn yn hytrach na'r system bresennol.' Ar hyn o bryd, mae ASEau yn derbyn yr un cyflog cyffredinol ag aelodau Seneddol yn eu haelod wladwriaethau cyfatebol (€87,358 ar gyfer ASEau o Gymru). Er mwyn talu am lety a chostau eraill, mae ASEau yn gallu hawlio cyfradd sylfaenol o €287 y dydd os ydyn nhw'n cofrestru am gyfarfodydd swyddogol y Senedd ym Mrwsel neu Strasbwrg. Ond faint yn union maen nhw wedi ei hawlio fel ASE o ran costau a threuliau teithio, ac i ba wledydd? Beth ydy'r cyfanswm maen nhw wedi ei dderbyn yn 2007 oddi wrth y Senedd Ewropeaidd? Mae pob un o'n ASEau wedi osgoi ateb cwestiynau uniongyrchol Barn. Does dim llawer o wybodaeth chwaith yn y datganiadau ynglŷn â diddordebau ariannol yn 2007. Mae Jill Evans wedi derbyn rhai taliadau 'dibwys' fel £30 am gyfrannu at raglen Wythnos Gwilym Owen a £25 am siarad ar raglen Bwrw Golwg. (Does dim esboniad chwaith pam fod Gwilym Owen yn talu mwy i'w gyfranwyr). Mae Glenys Kinnock hyd yn oed yn fwy cynnil gyda'i hesboniad: dim byd i'w ddatgan a dim sylwadau ychwanegol. Dyw Kinnock ddim yn sôn chwaith am gael ei beirniadu'n hallt, flwyddyn yn ôl, am geisio achub y blaned o westy pum seren ar ynys yn y Caribî (a hynny ar gost o fwy na £200,000 i'r holl ddirprwyaeth). Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr gyda NFU Mutual Insurance, mae Jonathan Evans hefyd yn gweithio fel cadeirydd 'non-executive' i'r Pearl Group. Er fod y cwmni buddsoddi yn gofalu am dros £25 biliwn, dyw Jonathan ddim yn datgelu faint maen nhw'n ei dalu iddo ef. Ond, i fod yn deg, mae Jonathan yn crybwyll y tocynnau rhad ac am ddim i Proms 2007 a gafodd gan y BBC, a'r ffaith iddo gael parcio am ddim ym maes awyr Bryste. Tybed a yw ein ASEau eraill yn defnyddio trafnidiaeth 'gyhoeddus' i gyrraedd eu hawyrennau i Frwsel, neu yn dewis teithio ar drên Eurostar? Doedd dim datganiad o ddiddordebau ariannol yn 2007 ar gyfer Eluned Morgan pan ddechreuodd Barn ymholi. 'Problemau technegol', eglurodd ei swyddfa. A version of this article originally appeared in Barn. |
| < Prev | Next > |
|---|






